Pridd (Welsh Edition)

  1. home
  2. Books
  3. Pridd (Welsh Edition)

Pridd (Welsh Edition)

4.08 49 1
Share:

Dyma gyfrol ryddiaith gyntaf Llŷr Titus ar gyfer oedolion. Hyd yn hyn mae o’n fwy adnabyddus am ei waith fel bardd a dramodydd, ac mae’r gyfrol...

Also Available in:

  • Amazon
  • Audible
  • Barnes & Noble
  • AbeBooks
  • Kobo

More Details

Dyma gyfrol ryddiaith gyntaf Llŷr Titus ar gyfer oedolion. Hyd yn hyn mae o’n fwy adnabyddus am ei waith fel bardd a dramodydd, ac mae’r gyfrol hon yn dyst i hynny gan fod yma iaith lenyddol i bwrpas – iaith sy’n gwneud i rywun oedi a meddwl eto am y dweud.
Bywyd hen ŵr o gefn gwlad Llŷn sy’n cael ei bortreadu yn y nofel a hynny drwy gyfrwng y tymhorau sydd mor annatod i fyd amaethyddiaeth. Mae’n stori sy’n berthnasol i bawb sydd â chysylltiad â chefn gwlad.

Mae Llŷr Titus yn ŵr ifanc a’r hyn sy’n rhyfeddol yn y gyfrol yw dawn a chyfoeth y dweud. Yn aml gellir credu mai rhywun hŷn yw awdur y geiriau wrth iddo gyfeirio at arferion cefn gwlad. Yr hyn sy’n cyfoethogi’r gyfrol yw nad at arferion bob dydd y gymdeithas honno y cyfeirir atynt ond at feddyliau a theimladau pobl – cawn glywed be sy’n corddi’r isymwybod. Mae’r cyfan yn drist o gyfarwydd. Mae’r awdur yn greadur hynod o sylwgar ac yn un sydd â’r ddawn i groniclo sgwrs.

Ar ddechrau’r gyfrol mae rhywun yn poeni, efallai, na fydd hi’n gyfrol hawdd i’w darllen – mae’r dweud yn llenyddol a’r diwyg yn wahanol ar adegau, ond yn fuan mae’r stori’n cydio ac y mae rhywun yn awchu am gael gwybod mwy am droeon bywyd yr hen ŵr.

Mae yn y gyfrol adleisiau o nofelau Caryl Lewis, awdur ifanc arall sydd wedi llwyddo i ddarlunio isfywyd cefn gwlad, ond yma dyw’r llinyn storïol ddim mor amlwg. Mae hynny'n gweddu i gymeriad yr hen ŵr gan nad yw’n un sy’n barod iawn i ddatgelu ei deimladau. Yn gefnlen i’r cyfan mae’r tir, natur a rhod y tymhorau, a does dim dianc rhag y llwynog sy’n llercian.

Yn araf y down i adnabod y bobl sydd wedi bod yn rhan annatod o fywyd yr hen ŵr ac am ei berthynas gyda’i ddiweddar wraig, gan sylweddoli beth oedd y rheswm mai “cyd-fyw ar wahân” oedd y ddau.


Yn aml ry’n yn clywed bod ewyllys yn nodi bod rhywun yn cael aros ar y fferm tra byddo – sy’n fendith, mae’n siŵr, yn nhyb y sawl sy’n nodi hynny, ond a ydyn ni wedi meddwl erioed faint o felltith y gall hynny fod? Dyma un o bynciau cignoeth y nofel hon. Mae’n ystrydeb, ond dyw bywyd ddim yn fêl i gyd. Fel y mae’r gyfrol (a bywyd go iawn) yn dangos, rhyw flerwch yw bywyd sy’n llifo i’w gilydd. Camp Llŷr Titus yw portreadu hynny. John Roberts (Gwales . com)

Nofel fer drawiadol sy'n bortread byw, ac effeithol o gynnil, o gymeriad unigryw ac o'r newid yng nghefn gwlad. Campwaith.
A stunning novella which presents a vivid and yet subtle portrait of an unique character. A masterpiece.

  • Format:
  • Pages:128 pages
  • Publication:
  • Publisher:Gwasg y Bwthyn Cyf
  • Edition:
  • Language:
  • ISBN10:1913996522
  • ISBN13:9781913996529
  • kindle Asin:1913996522

About Author

Llŷr Titus

Llŷr Titus

4.16 70 7
View All Books